Cwestiwn 1 – Beth yw goblygiadau cyflwyno Ardoll Brentisiaethau y DU ar gyfer cyflogwyr yng Nghymru?

Ar gyfer Comisiwn y Cynulliad, rydym wedi cyfrifo y byddwn yn atebol am dâl o tua £119, 000.

Mae'r DAS (y dull y gall cyflogwyr ei ddefnyddio i gael cyllid yn ôl yn gyfnewid am brentisiaid) yn gymwys i Loegr yn unig. Nid ydym yn gwybod eto pa drefniadau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith i ariannu hyfforddiant prentisiaid neu, yn wir, a fyddwn yn gallu cael mynediad o gwbl at yr arian a dalwyd i mewn i'r ardoll i ariannu hyfforddiant prentisiaid a ddarperir yng Nghomisiwn y Cynulliad.

Cwestiwn 2 – A fydd goblygiadau gwahanol i gyflogwyr y sector cyhoeddus a'r sector preifat?

Na fydd, hyd y gwyddom

Cwestiwn 3 – A oes goblygiadau penodol ar gyfer cyflogwyr sy'n gweithredu yng Nghymru a hefyd ledled y DU (nad ydych wedi cyfeirio atynt yn eich ymateb yn barod)?

Mae'n debyg y bydd yn bosibl i gyflogwyr ddefnyddio'r ardoll er mwyn i gyflogeion sydd wedi'u lleoli yng Nghymru ariannu gweithwyr sydd wedi'u lleoli yn Lloegr ond na fydd y gwrthwyneb yn bosibl - bod cyflogeion yn Lloegr yn ariannu cyflogeion yng Nghymru.  Ni fydd hyn yn effeithio arnon ni yn uniongyrchol fel cyflogwr.

Cwestiwn 4 – Os oes gennych bryderon ynghylch ariannu prentisiaethau ar ôl cyflwyno ardoll y DU, beth hoffech chi i Lywodraeth Cymru ei wneud i fynd i'r afael â'ch pryderon?

Mae angen i ni gael rhagor o eglurder ar sut y bydd y system ariannu hyfforddiant prentisiaid yn gweithredu ar ôl i'r ardoll gael ei chyflwyno. Fel y mae ar hyn o bryd, byddwn yn ariannu hyfforddiant prentisiaid yn lleol ac yn gorfod talu'r ardoll yn ogystal, a thrwy hynny yn cynyddu ein bil am yr un lefel o ddarpariaeth hyfforddiant.

Bydd hyn yn ein rhoi dan anfantais o gymharu â sefydliadau tebyg yn Lloegr (Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi, Cynulliad Llundain).

Cwestiwn 5 – Beth, os o gwbl, yw'r materion o ran polisi a chyllid traws-ffiniol sy'n codi o gyflwyno'r Ardoll Brentisiaethau (nad ydych wedi cyfeirio atynt yn eich ymateb yn barod)?

Dim, ar wahân i'r rhai a nodwyd gynt

Cwestiwn 6 – A oes gennych unrhyw farn ynghylch sut mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â chyflogwyr o ran yr Ardoll Brentisiaethau?

Ychydig iawn o wybodaeth sydd ar gael ynghylch sut y bydd yr ardoll yn cael ei gweithredu yng Nghymru a sut y gellir defnyddio'r cyllid ar gyfer hyfforddi prentisiaid.

 

Cwestiwn 7 – A oes gennych unrhyw sylwadau cyffredinol neu bryderon ynghylch y system bresennol o ran ariannu prentisiaethau yng Nghymru? Beth dylai Llywodraeth Cymru ei wneud i fynd i'r afael â phryderon yr ydych wedi eu nodi?

Dim.